Cofnodion y cyfarfod diwethaf

4 Tachwedd 2015

Tŷ Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

YN BRESENNOL:

 

Katie Dalton (ysgrifennydd)

Gofal

Val Bailey

Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru

Martin Bell

Rhiant

Jane Burgoyne

Cynghori Gofal Cychwynnol

Julie Davies

Grŵp Cymorth Anhwylderau Bwyta, Pen-y-bont ar Ogwr

Robin Glaze

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed Haen 4 Gogledd Cymru

Ewan Hilton

Gofal

James Jones

Haen 3, Arweinydd Clinigol Tîm Anhwylderau Bwyta Caerdydd a'r Fro / Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Molly Leopold

Haen 3, Arweinydd Clinigol Tîm Anhwylderau Bwyta Caerdydd a'r Fro / Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Manon Lewis

Dioddefwr / llysgennad Beat Cymru

Helen Missen

Gofalwr

Claire O'Reilly

Haen 3, Arweinydd Clinigol Tîm Anhwylderau Bwyta Caerdydd a'r Fro / Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Kim Palmer

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed, de-orllewin Cymru

Dr Khesh Sidhu

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Jacinta Tan

Prifysgol Abertawe / Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

 


 

CPGED/NAW4/29 - Croeso ac ymddiheuriadau

Camau gweithredu

 

Croesawodd Katie Dalton (y Cadeirydd dros dro) y rhai a oedd yn bresennol i gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Anhwylderau Bwyta.

 

CAFWYD: Ymddiheuriadau gan aelodau absennol

  • Bethan Jenkins AC
  • Gill Davies
  • Emma-Jayne Hagerty
  • Toni Hoefkens
  • Carole Phillips
  • Janet Ribeiro
  • Don Ribeiro
  • Debbie Woodward

 

 

CPGED/NAW4/30 - Cofnodion y cyfarfod diwethaf

Camau gweithredu

 

CYTUNWYD: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod diwethaf.

 

 

CPGED/NAW4/31 - Materion yn codi

Camau gweithredu

 

TRAFODWYD: Materion yn codi

 

CPGED/NAW4/23 - Materion allweddol a blaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau Anhwylderau Bwyta (AB) yng Nghymru

CAMAU I'W CYMRYD: KD i gwblhau'r ddogfen a'i hanfon at aelodau'r grŵp trawsbleidiol.

KD i gyhoeddi'r ddogfen ar-lein a'i hanfon at lunwyr polisïau perthnasol.

KD i ysgrifennu datganiad i'r wasg ac anfon y ddogfen i'r cyfryngau.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Cwblhawyd dogfen materion allweddol y GTAB ac fe'i hanfonwyd at yr aelodau. Fe'i cyhoeddwyd ar wefan Gofal ac fe'i hanfonwyd at swyddogion Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr byrddau iechyd sy'n datblygu cynllun cyflenwi nesaf Law yn Llaw at Iechyd Meddwl ac yn cynnal y gwaith gwella ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed. Drafftiwyd datganiad i'r wasg, gan gynnwys dyfyniadau ac astudiaethau achos gan Bethan Jenkins AC, Manon Lewis, James Downs, Dr Menna Jones ac Ewan Hilton. Denodd y stori sylw sylweddol, gan gynnwys cyfweliadau â Bethan Jenkins AC, James, Downs, Manon Lewis, Dr Menna Jones a Katie Dalton ar newyddion BBC Cymru, newyddion y BBC ar-lein, BBC Radio Wales, newyddion ITV Wales, Newyddion S4C, y Western Mail, a sawl gorsaf radio ranbarthol.

 

CPGED/NAW4/24 - Fframwaith Anhwylderau Bwyta Cymru

CAMAU I’W CYMRYD: BJ i ysgrifennu at y Gweinidog

BJ i ysgrifennu at bobl sy'n cynnal y gwaith adnewyddu

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Anfonwyd llythyrau at y Gweinidog Iechyd a Dr Khesh Sidhu. Trefnwyd digwyddiadau ymgysylltu cyhoeddus ar gyfer cleifion ac aelodau teulu/gofalwyr i rannu eu barn a'u profiadau o wasanaethau anhwylderau fwyta yng Nghymru.

 

CPGED/NAW4/25 - iechyd meddwl ac anhwylderau bwyta mewn ysgolion

CAMAU I'W CYMRYD: BJ i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg

BJ i ysgrifennu at awdurdodau lleol

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Drafftiwyd llythyrau at y Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Awdurdodau Lleol a chaiff y rhain eu hanfon allan yn fuan.

 

CPGMH/NAW4/26 - Law yn Llaw at Iechyd Meddwl

CAMAU I’W CYMRYD: KD i gylchredeg dogfen CIMC

KD i anfon y ddogfen materion allweddol i Lywodraeth Cymru

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Cylchredodd KD ddogfen Iechyd Meddwl mewn Gofal Sylfaenol yng Nghymru i aelodau'r grŵp trawsbleidiol ac anfonodd ddogfen materion allweddol y grŵp trawsbleidiol at y swyddog yn Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ddatblygu cynllun cyflenwi nesaf Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.

 

CPGED/NAW4/27 - maniffestos etholiad y Cynulliad

CAMAU I’W CYMRYD: BJ/KD i anfon y ddogfen materion allweddol i bleidiau gwleidyddol

KD i ychwanegu datblygiad yr addewidion allweddol i agenda'r cyfarfod nesaf

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Ar hyn o bryd, mae pleidiau gwleidyddol wrthi'n datblygu eu maniffestos ar gyfer etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol yn 2016; caiff y ddogfen materion allweddol ei hanfon atynt yn fuan.

 

CPGED/NAW4/28 - Gwasanaethau anhwylderau bwyta yng ngogledd Nghymru

CAM I’W GYMRYD: BJ i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd i dynnu sylw at bwysigrwydd gwasanaethau anhwylderau bwyta yn cael eu cynnwys yn y prosiectau y mae Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasod yn eu cefnogi ac i fynegi ei chefnogaeth i'r cynnig hwn.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Roedd BJ wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd ar y mater hwn. Dywedodd RG fod pryderon o hyd ynghylch a fyddai hyn yn cael ei gyflawni. Cynigiodd EH siarad â swyddogion Llywodraeth Cymru am y mater hwn ar ran y grŵp trawsbleidiol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

KD i sicrhau bod llythyrau yn cael eu hanfon cyn gynted â phosibl

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

KD i anfon y ddogfen materion allweddol at y pleidiau gwleidyddol

 

 

 

EH i siarad â swyddogion Llywodraeth Cymru

CPGED/NAW4/32 - Fframwaith Anhwylderau Bwyta Cymru

Camau gweithredu

 

Cyflwynodd Katie Dalton Dr Khesh Sidhu o Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Dr Sidhu gynnal gwaith adnewyddu ar Fframwaith Anhwylderau Bwyta Cymru. Amlinellodd Dr Sidhu baramedrau a phroses y gwaith adnewyddu, a phwysleisiodd bwysigrwydd gwrando ar brofiadau cleifion a'u teuluoedd/gofalwyr yn y broses, gan amlygu digwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd a drefnwyd yn Wrecsam a Chaerdydd ar gyfer 9 a 12 Tachwedd. Gwahoddodd Dr Sidhu aelodau'r grŵp trawsbleidiol i rannu eu barn a'u profiadau o ddefnyddio a darparu gwasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru.

 

Tynnodd Katie Dalton sylw at ddogfen 'materion allweddol' y grŵp trawsbleidiol a chododd aelodau'r grŵp trawsbleidiol y materion canlynol yn ystod y cyfarfod:

·      Nid yw nifer y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau anhwylderau bwyta yn rhoi'r darlun cyfan o bell ffordd - mae llawer mwy o bobl yn byw gydag anhwylderau bwyta heb fynediad at y driniaeth a/neu'r cymorth sydd eu hangen arnynt.

·      Mae'r fframwaith anhwylderau bwyta ar hyn o bryd yn amcangyfrif nifer y bobl sydd ag anhwylderau bwyta fesul practis meddyg teulu - ond mae hyn yn debygol o fod yn anghywir - mae'r ffigur yn debygol o fod yn llawer uwch.

·      Mae angen proses barhaus o welliant a datblygu gwasanaethau - ni all ddod i ben ar ddiwedd y gwaith adnewyddu.

·      Mae angen i ni ddefnyddio ymchwil parhaus i ddatblygu gwasanaethau dros amser.

·      Gallai'r fframwaith fod yn gliriach neu'n fwy cadarn o ran sgrinio a gweithredu ar lefel gofal sylfaenol.

·      Gellid gwneud mwy i dynnu sylw at symptomau a sgrinio ar gyfer anhwylderau bwyta - ond mae angen i weithwyr proffesiynol allu gwneud hyn yn gymharol hawdd (gan gydnabod y pwysau ar staff). Gellid defnyddio holiadur ac ynddo bum cwestiwn sylfaenol i ganfod a yw anhwylder bwyta yn debygol o fod yn bresennol.

·      Gofal sylfaenol - mae rhai meddygon teulu yn ardderchog ond nid yw eraill yn dda iawn am adnabod anhwylderau bwyta.

·      Mae hyder staff gofal sylfaenol yn gyffredinol yn isel o ran anhwylderau bwyta - felly mae angen cynyddu cefnogaeth i feddygon teulu a staff gofal sylfaenol eraill.

·      A ellir gwella'r hyfforddiant meddygol fel bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn cael eu dysgu fel rheol am anhwylderau bwyta?

·      A allwn wella hyfforddiant Therapi Ymddygiad Gwybyddol i gwnsleriaid?

·      Yn Haen 2, mae amrywiaeth eang o lefelau hyfforddiant ac mae gwahaniaeth yn y sgiliau a’r wybodaeth sydd gan weithwyr proffesiynol o ran anhwylderau bwyta ymhlith 

·      A allai nyrsys practis chwarae mwy o rôl o ran adnabod anhwylderau bwyta?

·      A allai gweithwyr proffesiynol eraill fel deintyddion, nyrsys ysgol a staff damweiniau ac achosion brys gael eu hyfforddi i adnabod arwyddion a symptomau anhwylderau bwyta, ac felly helpu i'w hadnabod ac ymyrryd yn gynnar?

·      A oes ffordd well o adnabod pobl sy'n dod i gysylltiad ag adrannau damweiniau ac achosion brys yn aml er mwyn tynnu sylw at anhwylderau bwyta posibl a nodi cymorth priodol?

·      Enghraifft: Galluogwyd amrywiaeth o weithwyr proffesiynol erbyn hyn i adnabod iselder ôl-enedigol; maent yn cydnabod pwysigrwydd hyn a difrifoldeb y cyflwr. Mae systemau sgrinio a holiaduron sy'n helpu i nodi problem. Yn ogystal, gwnaethpwyd gwaith mewn adrannau damweiniau ac achosion brys i wella ymwybyddiaeth o gam-drin domestig a'i adnabod yn well. Mae hefyd systemau ar waith i nodi grwpiau bregus eraill sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, megis plant a'r henoed. Oni ellid defnyddio dull tebyg i helpu staff nad ydynt yn ymwneud ag AB i adnabod anhwylderau bwyta yn well?

·      O roi system ar waith er mwyn tynnu sylw at anhwylderau bwyta, mae angen bod ymateb priodol a chymorth ar waith i fynd i'r afael â'r mater.

·      Wedi adnabod anhwylder bwyta, rhaid wrth ymateb cyflym - mae angen i wasanaethau fod yn fwy ymatebol i atal dirywiad ac i sicrhau bod yr arbenigedd a'r cymorth cywir ar gael a'u bod yn hygyrch.

·      Mae agweddau ac ymddygiad staff wedi gwella yn y gwasanaethau anhwylderau bwyta, ond mae lle i agweddau at anhwylderau bwyta wella mewn lleoliadau iechyd eraill, megis ar wardiau ailfwydo, wardiau pediatrig neu wardiau cyffredinol. Mae'n bwysig nad yw pobl yn teimlo eu bod yn cael eu beirniadu a’u stigmateiddio am fod arnynt anhwylder bwyta.

·      Mae problem gyda chyfrinachedd wrth i bobl adael gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed a mynd i ofal gwasanaethau i oedolion. Gall rhieni/aelodau'r teulu deimlo iddynt gael eu cau allan o'r trafodaethau yr oeddent yn rhan ohonynt yn flaenorol. Mae pobl yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd ac ymddiriedaeth, ond gall fod yn anodd iawn i aelodau'r teulu.

·      Gall y sector addysg chwarae rhan bwysig o ran adnabod anhwylderau bwyta yn gynnar a chreu amgylchedd cefnogol - dylid gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth a gwybodaeth ymysg y staff sy'n dysgu, staff cymorth a disgyblion.

·      Mae angen i'r fframwaith a'r ddarpariaeth o wasanaethau adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth yng Nghymru. H.y. ieithoedd, demograffeg, a daearyddiaeth Cymru.

 

 

 

 

Diolchodd Katie Dalton i bawb am eu presenoldeb ac am eu cyfraniadau i'r drafodaeth. Hefyd, diolchodd Katie i Dr Khesh Sidhu am ddod i'r cyfarfod i drafod Fframwaith Anhwylderau Bwyta Cymru a gwrando ar farn pobl.